Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 27 Ionawr 2021
Amser:
09.03 -
12.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11046
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Dai Lloyd AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Jayne Bryant AS Angela Burns AS Lynne Neagle AS David Rees AS |
Tystion: |
Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Jean White, Llywodraeth Cymru Dr Tracey Cooper, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Giri Shankar, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Robin Howe, Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Rebekah James (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Diolchodd y Cadeirydd i Andrew RT Davies AS am ei gyfraniad i waith y Pwyllgor a chroesawodd Angela Burns AS i'r Pwyllgor.
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyda chwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.
3 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru.
3.2 Cytunodd Dr Tracey Cooper i rannu â’r Pwyllgor gopi o adroddiad tueddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru o’i arolwg ymgysylltiad cyhoeddus pan fydd ar gael.
3.3 Cytunodd Dr Giri Shankar i ddarparu manylion yr amserlen fonitro ar gyfer effeithiolrwydd brechlynnau COVID-19 (gan gynnwys yr amser rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos y mae unigolyn yn ei gael), ac i amlinellu rôl Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y broses fonitro.
3.4 Cytunodd Dr Tracey Cooper i rannu â’r Pwyllgor Arolygon Neges Destun ynghylch Hyder mewn Ymlyniad Cysylltiadau (ACTS) diweddar i ddangos sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol a byrddau iechyd sy'n rheoli ac yn cydlynu Profi, Olrhain, Diogleu a'r system olrhain cysylltiadau.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod yr adroddiad drafft
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau a gytunir drwy’r e-bost.